Y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mercher, 24 Hydref 2012 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
10:03 - 12:20 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Christine Chapman (Cadeirydd) Angela Burns Jocelyn Davies Suzy Davies Rebecca Evans Julie Morgan Lynne Neagle Jenny Rathbone Aled Roberts Simon Thomas |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Gareth Pierce, Prif Weithredwr, CBAC Jo Richards, Pennaeth Ymchwil, CBAC Glenys Stacey, Prif Reoleiddiwr, Ofqual Cath Jadhav, Acting Director of Standards and Research, Ofqual |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Claire Morris (Clerc) Kayleigh Driscoll (Dirprwy Glerc) Anne Thomas (Ymchwilydd) Sian Thomas (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
2. Graddau TGAU Saesneg Iaith Haf 2012
2.1 Croesawodd y Cadeirydd Gareth Pierce a Jo Richards i’r cyfarfod. Holodd yr Aelodau y tystion.
Camau i’w cymryd:
· Dywedodd Gareth Pierce fod CBAC wedi bod yn gwneud rhywfaint o waith adolygol i edrych ar yr effaith y byddai methodoleg Cyfnod Allweddol 2 yn ei chael ar ganlyniadau’r arholiadau TGAU, ar wahân i Saesneg lle'r oedd y mwyafrif o’r ymgeiswyr yn Lloegr. Ni wiriwyd y gwaith eto, ond cytunodd i’w rannu gyda’r Pwyllgor maes o law.
· Cytunodd Gareth Pierce i gadarnhau a oedd rheolydd Cymru yng nghyfarfod y Grŵp Safonau a Materion Technegol ar 14 Mawrth 2012.
3. Graddau TGAU Saesneg Iaith Haf 2012
3.1 Croesawodd y Cadeirydd Glenys Stacey a Cath Jadhav i’r cyfarfod. Holodd yr aelodau y tystion.
Cam i’w gymryd:
Cytunodd Glenys Stacey i ddarparu ffigur canrannol cyffredinol y farchnad ar gyfer y gyfres newydd o gymwysterau TGAU Saesneg y mae pob un o’r cyrff dyfarnu (CBAC, AQA, Edexcel, OCR a CCEA) yn ei chynrychioli.
4. Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
4.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.
5. Ymchwiliad i fabwysiadu - ystyried yr adroddiad drafft
5.1 Cymeradwyodd y Pwyllgor yr adroddiad, yn amodol ar ambell ddiwygiad bach.
6. Trafod y flaenraglen waith
6.1 Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a Sgiliau ynghylch sgiliau achub bywyd mewn argyfwng.
Trawsgrifiad